11 Ionawr 2012

 

 

Ms Claire Griffiths

Dirprwy Glerc

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Y Swyddfa Ddeddfwriaeth

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd CF99 1AN

 

 

 

 

 

 

Ymchwiliad i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) (2009)

 

Diolch am eich gwahoddiad i gyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r effaith mae gweithredu'r Mesur hyd yn hyn wedi'i chael ar bobl ifanc.

 

Fel y cytunwyd, atodaf dystiolaeth ysgrifenedig sy'n mynd i'r afael â'r cwestiynau a holwyd i CCAUC ac Addysg Uwch Cymru yn eich neges ebost ar 20 Rhagfyr 2011.

 

Bydd effaith uniongyrchol y Mesur i'w gweld yn y sector ysgolion a'r sector addysg ôl-16, gyda'r effaith ar gyfer addysg uwch yn llai uniongyrchol.  O ystyried dyddiad gweithredu'r Mesur (o 2009/10, i'w weithredu'n llawn o 2011/12 ymlaen) byddem yn cytuno gyda rhai o'r ymatebwyr eraill a nododd ei bod yn rhy gynnar i fesur effeithiau'r Mesur, yn enwedig ar lefel addysg uwch.  Fodd bynnag, mae'r papur sydd wedi'i atodi i'r llythyr hwn yn crynhoi rhywfaint o'r dystiolaeth sydd gennym, data a gwybodaeth ansoddol - yn cynnwys storïol - o ffynonellau sefydliadol.

 

Os bydd angen unrhyw fanylion pellach arnoch, neu os bydd angen trafod unrhyw beth, mae croeso i chi gysylltu â mi.

 

 

 

 

 

 

Philip Gummett

 

 

 

 

 

 

Ymchwiliad i weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

 

Cefndir

 

1.            Sefydlwyd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.  Gweinyddwn gyllid a roddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg ac ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch (AU) yng Nghymru, a rhai cyrsiau AU mewn colegau addysg bellach.  Mae'r cyfrifoldeb am hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA), gan gynnwys achredu darparwyr HCA, yn cael eu cwmpasu o dan Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 a Deddf Addysg 2005.

 

2.            Dymunwn ddatblygu a chynnal AU o safon ryngwladol yng Nghymru, er lles unigolion, cymdeithas a'r economi, yng Nghymru a thu hwnt.  Defnyddiwn adnoddau a dderbyniwn gan Lywodraeth Cymru ac eraill mewn ffordd strategol i

*        sicrhau dysgu ac ymchwil addysg uwch o’r radd flaenaf; 

*        cynyddu i'r eithaf gyfraniad addysg uwch at ddiwylliant, cymdeithas ac economi Cymru;

*        sicrhau hyfforddiant athrawon achrededig o safon uchel ar hyd a lled Cymru, 

er mwyn gwella cyfiawnder cymdeithasol a chefnogi economi fywiog - y ddau amcan Er Mwyn ein Dyfodol, Strategaeth a Chynllun Addysg Uwch ar gyfer Cymru yn yr 21ain ganrif.

 

3.            Mae un o themâu strategol allweddol ein Strategaeth Gorfforaethol 2010-11 – 2012-13[1] yn ymwneud ag ehangu mynediad, er mwyn:  ‘Sicrhau tegwch, cyfle a llwyddiant mewn addysg uwch’.  Dyma'r thema sydd fwyaf perthnasol i weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru).  Mae ein dangosydd perfformiad ar gyfer y thema hon yn galw am gynnydd yn nifer y myfyrwyr o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf sy'n astudio AU mewn sefydliadau yng Nghymru.

 

Cwestiynau

 

 

C1       Pa newidiadau y mae'r sefydliadau addysg uwch (SAUau) yng Nghymru yn disgwyl eu gweld yn sgil gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau 2009?   Er enghraifft, newidiadau i nifer ymgeiswyr a chymwysterau ymgeiswyr i gyrsiau addysg uwch.

 

4.            Mae sefydliadau AU yn croesawu'r cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n dewis aros mewn addysg neu hyfforddiant ar ôl i'w haddysg orfodol ddod i ben.  Er nad yw hyn yn deillio'n uniongyrchol o'r Mesur o bosibl, mae'n glir nad yw'r Mesur wedi gweithio yn erbyn y cynnydd mewn cyfraddau aros ymlaen.  Fodd bynnag, gellid ystyried y byddai mwy o ddata a gwaith dadansoddi o arolygon, yn enwedig ar farn y dysgwyr er mwyn mesur ei effaith ar gyfraddau aros ymlaen yn fwy cywir, yn ddefnyddiol i'r gwerthusiad.  Gellid casglu'r data priodol drwy'r arolygon ar-lein o bobl ifanc sydd eisoes ar gael ar dudalennau gwe'r Pwyllgor.

 

5.            Er y bu gwelliant yng nghyfranogiad dynion, mae'r bwlch yn y cyfraddau aros ymlaen rhwng merched a dynion yn parhau i beri pryder ac mae'n anochel bod hyn cael effaith ar gynrychiolaeth gytbwys rhwng y rhywiau ym maes AU.

 

6.            Mae data addysg uwch am dueddiadau cymwysterau mynediad dros y tair blynedd diweddaf, 2007/08 i 2009/10 yn dangos bod nifer cynyddol o fyfyrwyr yn cael mynediad i addysg uwch gyda chymwysterau galwedigaethol (gweler isod).  Gwelwyd y cynnydd hwn cyn gweithredu'r Mesur, fodd bynnag, mae'n glir bod nifer y dechreuwyr galwedigaethol i SAUau o SABau yng Nghymru wedi cynyddu, fel y mae'r gyfran o fyfyrwyr sydd â chymhwyster galwedigaethol fel eu cymhwyster uchaf adeg mynediad.

 

Cofrestriadau israddedigion ar gyrsiau AU mewn SAUau yng Nghymru yn ôl y cymhwyster uchaf adeg mynediad a sefydliad blaenorol

Sefydliad blaenorol

Cymhwyster uchaf adeg mynediad

2007/08

2008/09

2009/10

% cynnydd 2007/08 i 2009/10

SABau Cymru1

Safon Uwch

3,901

4,471

4,936

27%

 

Cymwysterau Galwedigaethol

1,933

2,726

3,836

98%

 

Arall3               

3,598

3,841

4,289

19%

Cyfanswm 2

Safon Uwch

45,499

46,612

48,311

6%

 

Cymwysterau Galwedigaethol

5,907

6,999

9,095

54%

 

Arall3

26,997

26,129

25,461

-6%

Ffynhonnell:  Cofnod myfyrwyr HESA (nid yw data ar gyfer 2010/11 yn gymaradwy oherwydd newidiadau ym maes y cymwysterau uwch adeg mynediad)

1Mae sefydliad blaenorol 'SABau Cymru' yn cynnwys myfyrwyr o SABau penodol yng Nghymru a myfyrwyr sy'n dod i Gymru a gafodd eu codio fel myfyrwyr sy'n dod o SAB yn y DU amhenodol.

2Mae sefydliad blaenorol 'Cyfanswm' yn cynnwys yr holl SABau a SAUau yn y DU, ysgolion yn y DU a darparwyr eraill.

3Mae cymhwyster uchaf adeg mynediad 'Arall' yn cynnwys anhysbys a dim cymwysterau.

 

 

C2       Sut fydd gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) yn helpu i ddatblygu blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chyfiawnder cymdeithasol ac ehangu mynediad i addysg uwch?

 

7.            Mae barn sefydliadau yn cefnogi prif ganfyddiadau Estyn - sef y gwnaed cynnydd sylweddol o ran ehangu'r dewis i ddysgu a darparu'r craidd dysgu ar gyfer dysgwyr 14-19.  Fe'n hysbyswyd bod hyn wedi digwydd gyda chymorth dewislenni a gyhoeddwyd gan bob rhwydwaith dysgu 14-19.  Mae'r cwricwlwm ar gyfnod allweddol 4 ac ôl-16 yn fwy perthnasol i ystod ehangach o ddysgwyr erbyn hyn, er bod gwahaniaethau o ran gweithredu wedi cael eu nodi rhwng ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol yng Nghymru.

 

8.            Mae mesur Strategaeth Gorfforaethol CCAUC ar gyfer ehangu mynediad:

 

Cynnydd o 10% yng nghyfran y myfyrwyr sy’n dod o Gymru ac sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch mewn sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru sy’n dod o Ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Cymru, o 15.6% i 17.2% yn 2012/13

 

wrthi’n cael ei gyflawni, gydag 16.2% wedi cofrestru yn 2009/10 a rhagolygon y sector yn awgrymu y bydd y targed hwn yn cael ei gyflawni.  Mae'r mesur hwn yn canolbwyntio'n llwyr ar fyfyrwyr sy'n dod o Gymru a gallai'r ffigurau hyn sydd ar gynnydd ddangos ystod ehangach o ymgeiswyr i addysg uwch o fewn Cymru.  Fodd bynnag, mae SAUau wedi dweud wrthym bod diffyg darpariaeth o ran Cymhwyster Bagloriaeth Cymru mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf o gymharu ag ardaloedd mwy cefnog Cymru a bod y craidd dysgu'n cael ei gyflenwi mewn ffyrdd llai llwyddiannus.  Byddai'n ddefnyddiol gweld data cyhoeddedig ar argaeledd Bagloriaeth Cymru ledled Cymru er mwyn canfod a yw hyn yn wir ai peidio. 

 

9.            Yn ogystal, mae sefydliadau'n tynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael â'r duedd sydd ar gynnydd ymhlith ymadawyr blwyddyn 13 nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.  Mae angen i ni gael mwy o wybodaeth am y garfan hon er mwyn nodi p'un a ydynt wedi methu â symud ymlaen i AU neu gyflogaeth oherwydd diffyg cymwysterau, diffyg cyfle, neu efallai oherwydd eu bod yn cymryd 'blwyddyn i ffwrdd'.  Mae'n bosibl y byddai diwygio'r system derbyniadau i addysg uwch i greu proses ôl-gymwysterau (hy ôl-ganlyniadau) (gweler y ddolen isod) yn mynd i'r afael â'r mater hwn[2]

 

C3       A yw gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) wedi cael unrhyw effaith ar lwybrau dilyniant i addysg uwch?

 

10.       Fel y nodwyd o'r data uchod, mae'r llwybrau dilyniant i addysg uwch o SABau Cymru wedi bod yn cynyddu, ond nid yw'r data i fesur effaith y Mesur ar ôl 2009 ar gael ar hyn o bryd.  Mae angen i ni gael mwy o wybodaeth am ddilyniant yn cynnwys effaith bosibl ffactorau eraill, yn enwedig newid strwythurol mewn darpariaeth sy'n deillio o'r agenda Gweddnewid. Mae gwybodaeth fanwl am y sefyllfa bresennol o ran dilyniant i sefydliadau addysg uwch, yn enwedig ar sail rhanbarthol, yn destun prosiect cyfredol, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru (Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) a'i reoli gan Golegau Cymru.  Mae Prosiect Llwybrau Dilyniant FfCChC yn gweithio gyda thri rhanbarth CCAUC i gasglu data ansoddol a meintiol am ddilyniant rhanbarthol.  Bydd yn adrodd yn ôl ym mis Chwefror 2012 a bydd y canlyniadau'n ffurfio rhan o adroddiad gan CCAUC ar ddarpariaeth ran amser sy'n canolbwyntio ar gyflogwyr a chyfleoedd ar gyfer dilyniant o addysg bellach a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau ym mis Mawrth 2012.

 

 

C4       Sut fydd y dewis ehangach o gyrsiau academaidd a galwedigaethol i bobl ifanc rhwng 14 a 16 oed, o ganlyniad i weithredu'r Mesurau Dysgu a Sgiliau (Cymru), yn effeithio ar bolisïau derbyn sefydliadau addysg uwch Cymru? a

C5       A wnaed cynnydd tuag at sicrhau parch cydradd rhwng cyrsiau galwedigaethol ac academaidd o ran polisïau derbyn i gyrsiau addysg uwch?

 

11.          Mae'n anodd mesur cynnydd yn nhermau dewis ehangach o gyrsiau academaidd a galwedigaethol a pharch cydradd yn erbyn polisïau derbyn addysg uwch.  Ar gyfer y rhan fwyaf o sefydliadau addysg uwch, mae polisïau o'r fath eisoes yn cynnwys cymwysterau galwedigaethol a dulliau ar gyfer ystyried ymgeiswyr sydd â chymwysterau nad ydynt yn draddodiadol.  Ni fydd y Mesur wedi cael effaith sylweddol ar y polisïau eu hunain, er bod y defnydd o ddata cyd-destunol (ee am gefndir ymgeisydd) i ategu'r broses ymgeisio wedi bod ar gynnydd fwyfwy ym maes addysg uwch.  Mae parch cydradd yn fater diwylliannol, yn ogystal ag yn fater addysgol.  Mae'n bosibl bod rhai ymgeiswyr yn cael eu cyfeirio at lwybrau mwy academaidd neu galwedigaethol am resymau penodol, nad ydynt yn gysylltiedig â'u gallu i elwa ar addysg uwch.  Gallai hyn adlewyrchu dyheadau athrawon a rhieni yr un faint â pholisïau derbyn addysg uwch.

 

12.          Fodd bynnag, mae hefyd yn wir nad pob cwrs galwedigaethol yw'r ffordd orau o baratoi i astudio ym maes addysg uwch o bosibl.  Rydym yn ymwybodol yn sgil adborth gan sefydliadau y gall rhai cyrsiau BTEC fod yn baratoad gwael ar gyfer rhai rhaglenni AU, er mae'r rhesymau am hyn yn aneglur a byddai angen gwneud gwaith ymchwil pellach i'r maes hwn.  Gallai fod yn gyfuniad o duedd ysgolion i gyfeirio myfyrwyr sy'n llai galluog yn academaidd at lwybr BTEC galwedigaethol; bod cyrsiau BTEC yn tueddu i fod yn wannach ar wyddoniaeth craidd; a dibynnu ar aseiniadau fel yr unig ddull asesu yn y system BTEC.  Awgrymwyd y byddai rhai sefydliadau AU croesawu economi gymysg o gyrsiau academaidd a galwedigaethol sy'n fwy cydlynol o ran sgiliau cyflenwol, e.e. defnyddio dyfarniadau llai BTEC neu Rwydwaith y Coleg Agored ar y cyd â chymwysterau A1/A2, yn enwedig os oes rhaid cael Safon Uwch cyn symud ymlaen i AU.

 

13.          Mae'r gwaith o weithredu Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, sydd bellach yn cael ei dderbyn fel cymhwyster mynediad i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt, wedi ehangu llwybrau dilyniant i addysg uwch, gyda rhai sefydliadau yn derbyn Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn lle trydydd pwnc Safon Uwch ar hyn o bryd.  Rydym yn deall bod y Mesur wedi bod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer datblygu Cymhwyster Bagloriaeth Cymru gyda llawer o ysgolion yn defnyddio hyfforddwyr wrth ddatblygu sgiliau galwedigaethol a phortffolios profiad gwaith myfyrwyr.

 

14.          Yng nghyd-destun niferoedd rheoledig ym maes addysg uwch, a'r galw cynyddol, mynegwyd y farn y gallai fod yn anoddach osgoi ymagwedd at fathau a phatrymau newydd o gymwysterau sydd yn erbyn risgiau.

 

C6       A oes llwybrau dilyniant galwedigaethol clir i fyfyrwyr sydd am gael mynediad i addysg uwch ar gyfer rhai o'r cyrsiau AU, neu bob un ohonynt?

 

15.          Gan roi'r ddadl bod llawer o'r ddarpariaeth addysg uwch 'draddodiadol' yn ddarpariaeth alwedigaethol i'r naill ochr (e.e. meddygaeth, y gyfraith, peirianneg, ac ati), yma rydym yn cwmpasu datblygiad darpariaeth y Radd Sylfaen ers 2000.  Cyflwynwyd Graddau Sylfaen yn wreiddiol fel darpariaeth newydd yn 2000 i roi'r cyfle i raddedigion y mae eu hangen yn y farchnad lafur i fynd i'r afael â phrinder mewn sgiliau penodol. Nod arall Graddau Sylfaen yw cyfrannu at ehangu mynediad a dysgu gydol oes drwy annog cyfranogiad gan ddysgwyr na wnaethant ystyried astudio am gymhwyster lefel uwch yn flaenorol.  Mae cymwysterau o'r fath yn cynnig llwybr dilyniant galwedigaethol uniongyrchol i fyfyrwyr sydd am gael mynediad i addysg uwch gyda chymwysterau mynediad galwedigaethol a/neu y rhai sy'n gweithio sydd am fynd ymlaen i addysg uwch rhan amser.  Maent ar lefel 5 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru ac mae meincnod cymhwyster Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch ar gyfer Graddau Sylfaen[3] yn nodi y bydd Graddau Sylfaen fel arfer yn cysylltu'n uniongyrchol ag o leiaf un rhaglen sy'n arwain at radd baglor ag anrhydedd.  Mae hyn yn darparu llwybr dilyniant y tu hwnt i'r Radd Sylfaen.  Mae ystod o raddau Sylfaen newydd yn cael eu datblygu, drwy gyllid penodol a ddarparwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cyllid 'Cymru'n Un' CCAUC a thrwy Athrofa Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd.  Mae hyn yn adeiladu ar y ddarpariaeth brin graddau Sylfaen yn mewn sefydliadau AU ac AB yng Nghymru.

 

16.          Mae gwaith CCAUC gyda'r ddatblygu sector i strategaethau ar gyfer y tri rhanbarth sef De Ddwyrain Cymru, De Orllewin Cymru a Gogledd a Chanolbarth Cymru yn helpu gwaith cydweithredol rhwng sefydliadau AU ac AB i wella darpariaeth yn rhanbarthol, yn enwedig i ddysgwyr sydd, am ba reswm bynnag, wedi'u cyfyngu'n ddaearyddol, ac i gyflogwyr sy'n ceisio cymorth addysg uwch, o ba fath bynnag, yn lleol.  Bydd prosiect llwybrau dilyniant FfCChC, a nodwyd ym mharagraff 10 uchod yn darparu gwybodaeth bellach am gyfleoedd dilyniant a bylchau.

 

 

C7       A oes cyngor annibynnol proffesiynol ar gael i bobl 14 ac 16 oed (a'u rhieni) am lwybrau dilyniant i gyrsiau addysg uwch, yn enwedig i bobl ifanc sy'n bwriadu dewis cyrsiau galwedigaethol?

 

17.          Roedd yr adolygiad diweddar o Wasanaethau Gyrfaoedd yng Nghymru[4] yn nodi amrywiaeth rhwng ansawdd a sylwedd y cymorth cynllunio gyrfaoedd i bobl ifanc, gan ddadlau bod angen cydlynu yn fwy effeithiol y grwpiau proffesiynol amrywiol sy'n ymwneud â gweithgaredd o'r fath.  Mae Gwasanaethau Gyrfaoedd Addysg Uwch yn rhoi cymorth i fyfyrwyr a graddedigion yn bennaf ac nid ydynt yn ymwneud llawer â darparu cyngor i bobl ifanc sy'n cael mynediad at addysg uwch.  Er bod sefydliadau unigol yn darparu cymorth o'r fath, mae'n llai tebygol o gael ei ystyried fel cymorth annibynnol, er mae'n debygol o gynnwys cyngor i ymgeiswyr sydd â chymwysterau galwedigaethol. 

 

18.          Y ffynhonnell allweddol o ran cyngor ar AU i ymgeiswyr addysg uwch yw Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau (UCAS), sy'n darparu'r system derbyn i ddechreuwyr llawn amser.  Mae'r system yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac mae'r posibilrwydd o gyflwyno system derbyn ôl-gymhwyster yn cael ei ystyried (gweler troednodyn 2)  Mae CCAUC yn cyllido rhaglen Cefnogi Proffesiynoldeb mewn Derbyniadau (SPA) ar y cyd â chyrff cyllido AU eraill y DU, ac mae wedi gweithio gyda sefydliadau ledled y DU i wella gwasanaethau derbyn, y gellir disgwyl eu bod yn cryfhau'r ddealltwriaeth o gymwysterau galwedigaethol.

 

19.          Mae cyrff cyllido addysg uwch y DU yn cyllido gwefan Unistats ar y cyd[5] sy'n darparu gwybodaeth am ddarpariaeth addysg uwch, yn cynnwys canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, sef arolwg o fodlonrwydd myfyrwyr a gynhelir yn flynyddol ledled y DU.  Mae hyn yn galluogi darpar ymgeiswyr i gymharu sefydliadau.  Mae CCAUC hefyd yn gweithio gyda chyrff a sefydliadau cyllido AU eraill y DU i ddatblygu'r Set Gwybodaeth Allweddol.  Mae hwn yn set o wybodaeth safonol am bob sefydliad addysg uwch, yn cynnwys gwybodaeth am gyflogadwyedd, a fydd ar gael o fis Medi 2012 ymlaen.[6] 

 

20.          Yn ogystal, mae partneriaethau Ymgyrraedd yn Ehangach rhanbarthol a gyllidir gan CCAUC, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth o gyrff sydd â diddordeb mewn ehangu mynediad i addysg uwch, yn cynnwys Gyrfa Cymru, yn cydlynu gwaith rhanbarthol er mwyn gwella mynediad i addysg uwch.  Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth i bobl ifanc am gyfleoedd ym maes addysg uwch.

 



[1] www.hefcw.ac.uk/publications/corporate_documents/corporate_strategy_cy.aspx

 

 

[2] www.ucas.com/reviews/admissionsprocessreview/

 

[3] www.qaa.ac.uk/Publications/InformationAndGuidance/Pages/Foundation-Degree-qualification-benchmark-May-2010.aspx

 

[4] new.wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/researchandevaluation/evaluation/futureambitions/?skip=1&lang=cy

 

[5] unistats.direct.gov.uk/

 

[6] www.hefce.ac.uk/learning/infohe/kis.htm